Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dŷ Gwledig Sygun Fawr.
Croeso i Dŷ Gwledig Sygun Fawr
Cewch groeso cynnes yn yr hen blasty Cymreig hwn sy'n dyddio'n ôl i 1644 gyda golygfeydd godidog o'i gwmpas.
Mae wedi ei leoli o fewn 22 erw o dir mynydd a gerddi mewn llecyn tawel delfrydol i werthfawrogi golygfeydd trawiadol a harddwch naturiol arfordir a mynyddoedd Gogledd Cymru.
Llety
Yn Sygun Fawr mae rhai o'r ystafelloedd aros a'r golygfeydd gorau ym Meddgelert.
Mae pob un o'n 12 ystafell wedi eu cynllunio'n unigol ac wedi'u hadnewyddu'n llwyr er mwyn cynnig llety o'r safon uchaf. Mae ystafell ymolchi neu ystafell gawod en suite ym mhob ystafell wely.
Ardal Leol
Mae Sygun Fawr yng nghanol ardal hardd Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru, nepell o bentref hyfryd Beddgelert.
Mae'n lleoliad delfrydol i gerddwyr, beicwyr mynydd a rhai sy'n hoff o weithgareddau awyr agored, yn ogystal â phobl sy'n ymddiddori mewn trenau neu unrhyw un sy'n dymuno cael seibiant i fwynhau'r golygfeydd, y cestyll, yr adeiladau hanesyddol a'r diwylliant a gysylltir â Gogledd Cymru.
Pentref Beddgelert a Nant Gwynant, lleoliad bendigedig ar gyfer gwyliau braf.
Pentref Beddgelert a Nant Gwynant, lleoliad bendigedig ar gyfer gwyliau braf.